Annwyl Ymgynghorai,
Cynnig i drawsnewid addysg arbenigol drwy:
gynyddu nifer y lleoedd yn Ysgol y Deri i addysgu 150 o ddisgyblion ychwanegol; a
chodi adeilad newydd ar y safle a ffefrir yn Cosmeston, Penarth ar gyfer mis Medi 2023 a fyddai'n gweithredu fel safle ychwanegol o dan reolaeth Ysgol y Deri.
Ar 26 Ebrill 2021, ystyriodd Cabinet Cyngor Bro Morgannwg yr adroddiad gwrthwynebiadau a'r holl ddogfennau perthnasol eraill a phenderfynodd gymeradwyo'r cynnig. Mae’r adroddiad gwrthwynebiadau ar gael i’w weld a’i lawrlwytho ar wefan y Cyngor:
Mae copïau caled o'r adroddiad gwrthwynebiadau ar gael ar gais drwy gysylltu ag aelod o’r Tîm Ysgolion yr 21ain Ganrif ar: 21stcenturyschools@valeofglamorgan.gov.uk
Bydd y cynnig yn golygu y bydd darpariaeth addysgol arbenigol yn Ysgol y Deri yn cael ei chynyddu i ddarparu ar gyfer 150 o ddisgyblion ychwanegol. Er mwyn darparu ar gyfer y capasiti cynyddol hwn, bydd adeilad ysgol newydd yn cael ei adeiladu ar safle newydd, a fydd yn gweithredu o dan reolaeth Ysgol y Deri.
Wrth benderfynu ar y cynnig, roedd y Cabinet yn fodlon y bydd y cynnig yn:
Sicrhau bod y Cyngor yn gallu ateb y galw a ragwelir am addysg arbennig ym Mro Morgannwg;
Darparu amgylcheddau dysgu arloesol a chreadigol y gellir eu haddasu i newid ac sy'n diwallu anghenion ein dysgwyr mwyaf agored i niwed;
Cynyddu gallu’r gymuned i ddefnyddio a rhyngweithio â’r ysgol drwy ddefnyddio cyfleusterau addysgol yr ysgol, gan fodloni anghenion yr ysgol ar yr un pryd.
Cydnabyddir mai Ysgol y Deri yw'r sefydliad sydd â'r profiad a'r sgiliau i weithredu strategaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol yn y ffordd fwyaf effeithiol o fewn ac ar draws yr Awdurdod Lleol (ALl). O'r herwydd, bydd ehangu Ysgol y Deri yn golygu bod rhai o'n dysgwyr mwyaf agored i niwed yn cael y cymorth a'r ddarpariaeth anogaeth fwyaf effeithiol fel elfennau allweddol o'u haddysg; a
Bydd atal dibyniaeth yn y dyfodol ar ddarpariaeth gostus y tu allan i'r sir.
Yn gywir,
Paula Ham, Cyfarwyddwr Dysgu a Sgiliau
Dear Consultee,
Proposal to transform specialist education by:
increasing the capacity of Ysgol Y Deri to accommodate an additional 150 pupils; and
constructing a new building on the preferred site located in Cosmeston, Penarth for September 2023, which would operate as an additional site under the management of Ysgol Y Deri.
On 26 April 2021, the Vale of Glamorgan Council’s Cabinet considered the objection report and all other relevant documentation and determined to approve the proposal. The objection report is available to view and download from the Council’s website:
Hard copies of the objection report are available on request by contacting a member of the 21st Century Schools Team on: 21stcenturyschools@valeofglamorgan.gov.uk
The proposal will mean specialist educational provision at Ysgol Y Deri will be increased to accommodate an additional 150 pupils. In order to accommodate this increased capacity, a new school building will be constructed on a new site, which will operate under the management of Ysgol Y Deri.
In determining the proposal, Cabinet were satisfied that the proposal will:
Ensure the Council is able to meet projected demand for special education in the Vale of Glamorgan;
Provide innovative and creative learning environments which are adaptable to change and meets the needs of our most vulnerable learners;
Increase the level of community access and interaction through the use of the school’s educational facilities whilst meeting the needs of the school;
It is recognised that Ysgol Y Deri is the organisation with the experience and skills to implement the Additional Learning Needs (ALN) strategy most effectively within and across the Local Authority. As such, an expansion of Ysgol Y Deri will mean that some of our most vulnerable learners receive the most effective support and nurture provision as key components of their education; and
Prevent future reliance on costly out of county provision.
Yours faithfully,
Paula Ham, Director of Learning and Skills